Mae 400 + o gwsmeriaid y cwmni yn cynnwys rhai o gyrff a chwmnïau mwyaf dylanwadol Cymru. Gwneir yr holl waith ar rwydwaith o gyfrifiaduron, gan ddefnyddio pecyn cyflawn proffesiynol diweddaraf Microsoft Office. Gellir cysylltu â'r swyddfa dros y ffôn, ffacs neu e-bost.
Erbyn hyn, mae'r rhan fwyaf o'r gwaith ysgrifenedig yn cyrraedd ar ffurf electronig, sy'n golygu ei fod yn cael ei ddychwelyd yn union yr un fformat. Crëwyd cronfa ddata o 55,000 o dermau er mwyn sicrhau cysondeb yn holl waith y cwmni. Defnyddir CysGliad a chronfa Term Cymru’r Cynulliad fel arfau cyfrifiadurol ychwanegol i sicrhau cywirdeb a chysondeb y gwaith. Anelir at drefnu wythnos waith y cwmni wythnos gyfan ymlaen llaw, ac fe gedwir un cyfieithydd profiadol 'wrth law' bob dydd, i gyfieithu hyd at 3,000 o eiriau y dydd a ddaw i mewn yn ddirybudd.
Gan fod cyfartaledd o 200,000 o eiriau yn cael eu cyfieithu bob wythnos, gorau po fwyaf o rybudd a geir ynghylch gwaith, a gorau po hwyaf yr amserlen a roddir ar gyfer ei gwblhau. Mae'r cwmni'n ymhyfrydu yn ei allu i ymateb yn hyblyg i anghenion ei gwsmeriaid, ac mae sefydlu'r drefn uchod gyda chwsmeriaid, o'r dechrau'n deg, yn ategu ei effeithiolrwydd.
Mae cyfieithwyr Cymen gyda'r mwyaf profiadol a safonol yng Nghymru. Mae’n well gennym beidio â rhannu dogfen swmpus rhwng gwahanol gyfieithwyr a’r nod yw dyrannu gwaith i gyfieithwyr sydd wedi arbenigo yn y maes perthnasol. |
|