|
EISTEDDFOD YR URDD SIR CONWY 2008

CYMEN yw cyfieithwyr ar y pryd swyddogol yr Eisteddfod yr Urdd eleni. Byddwn yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd llawn yn y pafiliwn o fore gwyn tan nos. Pob lwc i bawb sy'n cystadlu!
Ewch draw i wefan yr Eisteddfod am ragor o fanylion: Eisteddfod yr Urdd Sir Conwy 2008
TAITH FEICIO NODDEDIG AR RAN NSPCC CYMRU
Dyma ni ar fin cychwyn ar daith feicio noddedig ar ran NSPCC Cymru. Aethom ar daith 10 milltir o gwmpas Caernarfon gan ddirwy y daith i ben yn y Garddfôn, y Felinheli. At ei gilydd, codwyd dros £3,000 a hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb am eu haelioni.

Ceir mwy o wybodaeth a lluniau o deithiau beiciau eraill ar wefan NSPCC - http://www.nspcc.org.uk/getinvolved/raisemoney/bigbikeride/bigbikeridehub_wda40909.html
HYFFORDDIANT CYFIEITHU AR Y PRYD
Mae tri aelod o staff wrthi'n ddiwyd ar hyn o bryd yn meithrin y grefft o gyfieithu ar y pryd. Maent newydd gwblhau cwrs hyfforddi 10 wythnos a drefnwyd gan Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/ ) er mwyn ateb y galw mawr sydd am gyfieithu ar y pryd o fewn ardaloedd a mudiadau gwirfoddol yng Ngwynedd. Fel rhan o'r cwrs mae gofyn iddynt fynd allan i gyfieithu ar y pryd er budd mudiadau cymunedol neu wirfoddol. Mae hyfforddwyr y cwrs yn argymell y dylent geisio dod o hyd i fudiad gwirfoddol neu gorff/cymdeithas/cyngor lleol er mwyn iddynt allu gloywi eu sgiliau newydd. Felly os ydych chi'n cwrdd â'r meini prawf uchod ac yn chwilio am rywun i ddod atoch i gyfieithu ar y pryd - yna cysylltwch â ni.
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/
TYMOR Y CYNADLEDDAU
Unwaith eto eleni, cafwyd hydref prysur iawn yn teithio bob cwr o Gymru yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd mewn cynadleddau a chyfarfodydd blynyddol. Cafwyd amrywiaeth o gynadleddau ar bob testun dan haul ac o blith rhai o'r siaradwyr gwadd roedd Dafydd Elis Thomas, Llywydd y Cynulliad, Peter Hain, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion, Rhun ap Iorwerth, sylwebydd gwleidyddol y BBC, sawl Gweinidog ac Aelod Cynulliad ac arbenigwyr yn eu maes o bedwar ban byd. Yn wir, roedd un gynhadledd boblogaidd wedi denu dros 400 o gynadleddwyr - tipyn o waith casglu clustffonau, credwch chi fi! Gweler isod rai lluniau o gynhadledd Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) a gynhaliwyd yn Galeri - oes llun ohonoch chi 'na?


CYFIEITHU TUDALENNAU GWE
Rydym wedi sylwi'n ddiweddar bod mwy a mwy o’n gwaith cyfieithu’n cael ei gyhoeddi ar y we. Yn sgil hynny, teimlem y byddai’n fanteisiol i ni fel cwmni ac i’n cwsmeriaid pe byddem yn gallu meithrin sgiliau newydd gan ddechrau cyfieithu mewn ffeiliau html.
Mae hyn yn golygu bod ein cwsmeriaid yn derbyn gwaith yn ôl ar fformat sy’n barod i’w gyhoeddi ar y we. Yn wir, gallwn edrych ar y fersiwn wreiddiol Saesneg, gweithio yn y ffeil destun html a’i throsglwyddo yn ôl i dudalen we yn Gymraeg. Mae hyn yn ein galluogi i sicrhau bod y testun yn cael ei osod yn y safle cywir a bod gennym yr holl wybodaeth gefndir sydd ei hangen arnom.
Mae croeso i chi anfon eich tudalennau gwe atom!
EISTEDDFOD YR WYDDGRUG A'R CYFFINIAU 2007
GOBEITHIO Y GWNAETHOCH CHI FWYNHAU AC FE WELWN NI CHI YNG NGHAERDYDD Y FLWYDDYN NESA!

(Diolch i'r BBC am y Llun) |