Sefydlwyd Cymen ym 1987 gan Carolyn Iorwerth ac Eleri Lovgreen, a hynny i wneud gwaith cyfieithu ysgrifenedig a chyfieithu ar y pryd. Bellach, mae'r cwmni yn nwylo Manon Cadwaladr ac Aled Jones ac yn mynd o nerth i nerth.
Ychwanegwyd at y staff yn raddol wrth i'r baich gwaith gynyddu ac erbyn hyn, ceir 13 aelod o staff a 15 cyfieithydd llawrydd profiadol yn gweithio o'u cartrefi, bob un ohonynt wedi eu trwytho yn arddull ac egwyddorion y cwmni.
|

|
|
Yn y swyddfa agored, rhoddir digon o gyfle i staff bwyso a mesur a thrin a thrafod cyfieithiadau ymysg ei gilydd. Ceir hefyd ystafell seminar, lle cynhelir sesiynau wythnosol i drafod gramadeg ac arddull. |
Yn 2007, llwyddodd Cymen i ennill yr achrediad ISO 9001:2000 ar Reoli Ansawdd ein gwaith cyfieithu. Mae hwn yn farc safon rhyngwladol sy'n dangos ein hymrwymiad i safon y gwaith a gynhyrchwn ac yn warant i'n cwsmeriaid bod gennym systemau a gweithdrefnau ar waith sy'n bodloni safonau a disgwyliadau byd-eang.
|
|